Cabinet meddyginiaethau yn y cartref
Llusgwch y feddyginiaeth gywir i gyfateb i’r disgrifiad cywir o’r symptom/gwellhad.
iStock-1215109947.jpg
iStock-185058334.jpg
iStock-1176618214.jpg
iStock-842606604.jpg
iStock-947340218.jpg
iStock-1221627290.jpg
Paracetamol ac ibuprofen
Mae'r cyffuriau lladd poen yma yn effeithiol wrth leddfu rhai poenau bach a dolur, e.e. cur pen. Gallant hefyd gynorthwyo i leddfu annwyd. Cofiwch ei bod hi'n bwysig edrych ar gyfarwyddiadau’r pecyn cyn eu defnyddio a chadw at y dos sydd wedi ei argymell.
Diferion llygaid
Gellir defnyddio diferion llygaid ar gyfer nifer o gyflyrau gan gynnwys sychder, cochni, haint, alergedd, cosi, dolur, chwydd a chrawn yn y llygaid. Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau am sut i ddefnyddio'r diferion yn effeithiol.
Rectangle
Rectangle
Tabledi a eli gwrth-histamin
Mae tabledi ac eli gwrth-histamin yn cael eu defnyddio yn aml i helpu i reoli symptomau anhwylderau iechyd sy'n gysylltiedig ag adweithiau alergaidd megis clefyd y gwair, brathiadau a phigiadau pryfed ac alergeddau bwyd. Ni allant wella'r achos sylfaenol, ond maent yn helpu i leddfu symptomau.
Rectangle
Rectangle
Antasidau
Gall antasidau helpu i liniaru symptomau llosg cylla, gwynt a phoen stumog. Gallwch brynu antasidau ar ffurf tabledi i’w cnoi, tabledi toddadwy neu hylif.
Eli antiseptig
Gall eli antiseptig helpu i leddfu poen a haint i friwiau bach, crafiadau, mân glwyfau, llosgiadau mân, brathiadau a phigiadau.
Rectangle
Plasteri
Gallwch gael plastr o siapiau a meintiau amrywiol. Gallant orchuddio toriadau mân, crafiadau neu fân glwyfau i’w hatal rhag cael eu heintio.
Rectangle